Caniadau Buddug/Gyda'r tannau
← Megis deilen | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Joseph yn hysbysu ei hun → |
GYDA'R TANNAU.
HOFF yw gennyf sain y delyn,
Ar hyd y nos:
Ymlid ymaith ofn y gelyn,
Ar hyd y nos:
Swynol ydyw ei pher seiniau,
Iaith (yr) enaid ar ei thannau,"
Dyna'n fwyaf garaf finnau,
Ar hyd y nos.
Mae fy nghariad ar y wen donn,
Ar hyd y nos:
Curo drosto mae fy nghalon,
Ar hyd y nos:
Boed i'r ser a'r lloer ei wylio,
Boed amddiffyn nefoedd drosto,
Nes y delo adref eto,
Ar hyd y nos.