Caniadau Buddug/I ferch amddifad
← Helpu Iesu Grist | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Colli John → |
I'R FERCH AMDDIFAD.
(Ysgrifenwyd mewn Album).
Ti biau'r môr a thi biau'r mynydd,
Ti biau'r afon, a thi biau'r coed,
Ti biau'r awyr, ti biau'r blodau,
Deimlant anrhydedd gael bod dan dy droed,
O eneth gyfoethog! Ti biau'r adar,
Eiddot ti'r cwbl—etifeddes y wlad,
Na ddigalona dy fod yn amddifad,
Ti biau'r nefoedd, wyt blentyn Dy DAD.