Caniadau Buddug/Mewn Beibl

Alice ar ben ei blwydd Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Heddwch

MEWN BEIBL

DYMA Feibl anwyl Iesu,"
"Dyma rodd " dy anwyl ffrynd,
Mae yr amser yn dynesu,
Pan y bydd hi wedi mynd;
Dyma ffrynd a fydd yn aros,
Gwna yn fawr o'i eiriau glân;
Ymhob tywydd, bydd yn ddiddos
Gysgod yn y dwr a'r tân.