Caniadau Buddug/Mewn album (1)

Ar farwolaeth Jane Catherine Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ar briodas

MEWN ALBUM

WRTH droi dalennau'r gyfrol hon
Canfyddaf gamrau gwyn athrylith,
A theimlaf gryndod dan fy mron
Rhag ofn rhoi us ymysg y gwenith;
Gan hynny'm diogelaf ran
'Rol gweld y llyfr a'i ddarllen drwyddo
Fydd cael fy nghofio yn y man
Heb ddim ond rhoi fy enw ynddo.