Caniadau Buddug/Miriam fach

Ar briodas (2) Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Enw'r Iesu

MIRIAM FACH

.

MIRIAM fach, heb fam i gychwyn
Gyrfa bywyd yn y byd;
Pwy a'th arwain, anwyl blentyn,
Pwy a sigla'th ddyrus gryd?
Tannau calon pwy gynhyrfa
Wrth dy oslef eiddil wan,
Llygad cyflym pwy'th ddilyna
I'th helbulon ymhob man?

Pwy a wylia'th ysgogiadau,
Clustiau pwy adneba'th gri?
Pwy ddeallath ocheneidiau,
Pwy a sych dy ddagrau di?
Pwyth gerydda pan ddechreui
Ddysgu gyntaf wneuthur bai?
Pwy a ddwed mai drwg a wneli
Pan ddywedi di "Na nai"?

Hidia befo, Miriam dirion,
Gall yr Hwn a ddug dy fam,
Roddi calon mam i estron,
I’th amddiffyn rhag pob cam;
Gall ro'i breichiau tyner cariad
I'th gofleidio, anwyl un,
O ran hynny, gall ddiddanu
Fel diddanai'th fam dy hun.

Blentyn anwyl, rhoddwn enw'th
Fam i ti ar draws ei harch,
Rhodded Duw it ras i'w gadw
Mewn anrhydedd byth a pharch;

Fe'allai gelli di gyfanu
Rhwyg a wnaed gan drefn y nef,
Pan y ffeiriodd gyda "dadi,"
Miriam am ei Firiam ef.