Caniadau Buddug/Olwynion amser

Mis Ionawr Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
I ferch ieuanc yn ei Beibl

OLWYNION AMSER.

Troi yn gyflym maent o hyd,
Ninnau ar y cantau'n mynd;
I ba le, fy anwyl ffrynd?
I ryw hafan dawel glyd.

Troed olwynion amser mwy,
Cadwn ninnau olwg fry,
Ni raid ofni rhwystrau lu,
Troant faint a fynnont hwy.

Taflant un o donn i donn,
Canwn ninnau ar y brig,
Collodd brig y donn ei dig
Yn ol troed ein Ceidwad llon.