Caniadau Buddug/Pen blwydd Olwen
← Ar dderbyniad darlun | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Ruth → |
PEN BLWYDD OLWEN
OLWEN yw dy enw,
Owen oedd i fod !
(Dyna'r enw goreu
Glywais i erioed):
Ond mae Olwen anwyl,
Yn awgrymu myrdd
O rinweddau hawddgar,
Fyddant byth yn wyrdd.
Cofia hynny, Olwen,
Arwain di bob oed;
Modd y byddo diogel
Dilyn oi dy droed:
Edrych ar dy lwybrau,
Gan ystyried hyn,
Tyfed yno flodau;
Fyddo'n flodau gwyn.
Bydded gwyn dy fywyd,
Bydded gwyn dy fyd,
Bydded gwyn dy lwybrau,
Ar eu hyd i gyd:
Na fydd fel y rhosyn,
Mae gan hwnnw ddrain:
Ond fel lili dyner,
Wen, a theg ei graen.
Bydd fel swynol lili,
'N wylaidd blygu'i phen:
Dan wahanol droion,
Bydd yn lili wen;
Boed i tithau, Olwen,
Feinir firain lon,
Droi dy wedd i'r heulwen,
Gwna'r un fath a hon.
Un peth arall, Olwen,
Fyddai'n well na'r rhain,
Yw cael bod yn lili,
Er ymysg y drain:
Hawdd blaguro'n heinyf,
Pan ynghol yr ardd,
Ond mae'r byd yn arw;
Drain oddeutu dardd.
'Rwy'n dymuno heddyw,
I ti Dduw yn rhwydd;
Un o'th ddyddiau pwysig,
Ydyw pen dy flwydd:
Boed dy holl flynyddoedd,
Fel dy enw glân,
Fel y byddo'th fuchedd
Yn hyfrydol gân.