Caniadau Buddug/Rhagymadrodd
← Caniadau Buddug | Caniadau Buddug Rhagymadrodd gan Catherine Prichard (Buddug) Rhagymadrodd |
Cynhwysiad → |
RHAGYMADRODD.
Yn eglwys Llaneilian, Mon, y mae cerflun o wraig ar ei gliniau o flaen allor. Wrth ei phen y mae'r weddi,—"Nid i ni, Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw di." Uwchben hynny y mae llythrennau cyntaf "Iesus Hominum Salvator," —Iesu Gwaredwr dynol ryw.
Y mae'r darlun a'r weddi yn dwyn un arall o ferched Mon,—Buddug a'i gweddi a'i gwaith, i'r meddwl.
Merch oedd Catherine J. Prys i Robert ab Ioan Prys (Gweirydd ap Rhys), y llenor a'r hanesydd diflino, a Gras, ei wraig dawel a dwys. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorff. 4, 1842. Hi oedd yr wythfed o'r plant, ac yr oedd ddwy flwydd yn iau na'i brawd athrylithgar Golyddan. Yr oedd yn blentyn hoffus a gobeithiol, ac yr oedd yn hoff o gân erioed. Darllennai lawer, yn Gymraeg a Saesneg, pan yn blentyn; yr oedd yn hoff o'r hen benhillion telyn; a gwnai ambell rigwm ei hun pan yn ddeg oed.
Yr oedd yn cystadlu pan yn ddeunaw oed. Cyn bod yn ugain yr oedd wedi ennill sylw fel amddiffynnydd anrhydedd ei rhyw dan yr enw Buddug. Urddwyd hi'n fardd gan Glwydfardd yn Eisteddfod Dinbych yn 1860.
Ionawr, 2, 1863, ymbriododd à Mr. Owen Prichard (Cybi Velyn), un o'r un gariad at gân a gwneyd daioni.
Y tu allan i waith rhai o'i theulu athrylithgar ei hun, y mae'n debyg mai Ann Griffiths ac Islwyn a efrydai gysonaf. Nid anghofir hi gan neb a'i clywodd yn darllen ei theyrnged i athrylith Ann Griffiths i'r llu o bobl Maldwyn oedd wedi dod i Lanfyllin i ddathlu can. mlwyddiant eu hemynyddes.
Am y gwlith, a hirddydd tawel, a blodau gardd y meddylir wrth ddarllen caneuon Buddug. Y maent yn bur fel y goleuni, yn naturiol fel nant y mynydd. Cân gwraig garedig, ddwys, a duwiol, tra wrth ei gwaith, ydyw'r gân. Wrth edrych ar hirddydd haf ger gwely ei mam glaf y canodd "O na byddai'n haf o hyd.” Wrth feddwl am ei dosbarth yn yr Ysgol Sul y canodd,—
"Gallaf edrych yn eich wyneb,
Edrych arnoch yn ddi-fraw;
Ysgwyd dwylaw mewn anwyldeb
Yn y tragwyddolfyd draw."
Tra bo chwaeth yn bur yng Nghymru, tra bo serch at fam a chwaer, tra gwelir tlysni bywyd rhian a gwraig, ni ollyngir dros gof awen lednais, dyner, a charedig Buddug.
Bu farw'n dawel, Mawrth 29, 1909; rhowd hi i huno ym mynwent Maes Hyfryd, Caergybi; ai ei bedd rhowd cerrig gwynion glân a cholofn o farmor gwyn. Adroddwyd ei hanes gan R. Mon Williams (Cymru, cyf. xxxix., 223); ond ei chofadail oreu yw ei Chaniadau, gasglwyd gan ei phriod yn 1909, mewn hiraeth am dani.
Llanuwchllyn, Rhag. 23, 1910.