Caniadau Buddug/Y bachgen Iesu

Neges y blodeuyn Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Y deigryn

Y BACHGEN IESU YMYSG

Y DOCTORIAID.

(Buddugol).

Y BACHGEN Iesu! dyna dant!
A dery'n fyw ar glust dynoliaeth;
Gall bysedd bychain bach y plant
Ymgydnabyddu â'r gerddoriaeth;
Pa le mae'r fam na fu erioed
Mewn pryder chwerw am ei phlentyn?
Rhoed drem yn ol i ddeuddeg oed
Yr Hwn orchmynodd fod pob blwyddyn.

Oes neb a ddywed wrth y bach,
Am gofio'i fod ymysg y doethion?
Am gofio ei iselradd ach,
A gwylio ar ei ymadroddion?
Mae holl adnoddau dysg a dawn,
Yn ymgyfarfod yn y ddinas;
A'r byd yn rhoi gwarogaeth llawn,
I ddysgedigion bri ac urddas.

Ond, dacw'r Bachgen gwylaidd mâd,
Yn holi ac yn gwrandaw arnynt,
Nes synnu prif ddoctoriaid gwlad,
Ac agor eu golygon iddynt:
Pa ryfedd? Onid gair yr Un
Agorodd emrynt mawr y wawr-ddydd?
Pa ryfedd ? Onid anadi ffun,
Yr Hwn sy'n agor bywyd beunydd?

Mor debyg yw i'n bechgyn ni,
Ond hynod iawn ymysg doctoriaid;

Ni welent hwy er maint eu bri
Ddim Duw o dan amrantau'i lygaid;
Pan godai'i fys uwchben y ddeddf,
A'i gwisgo â goleuni trwodd,
Ni welent hwy mo'r ddwyfol reddf
A redai drwy y bys a'u creodd.

Hwy synnent at ei fawredd Ef,
Fe synnaf finnau'i fod mor fychan!
Yr Hwn a daenodd ddae'r a nef,
A'i ddeall, fod mor hynod egwan!
Podd gallodd anherfynol Fod,
Ymwasgu 'rioed i'r fath gyfyngder?
Ymguddio mewn rhyw ddeuddeg oed,
O ryfedd wyrthiol Anfeidrolder!

Pan ddirwyn Duw holl flwyddi'r byd
Fel pelen fawr o gylch ei fysedd;
A'u hyrddio i'w diddymol gryd,
I'r tragwyddoldeb pell di-ddiwedd;
Cawn wybod gan yr Iesu glân
Pam rhoes ef ddeuddeng mlwydd am dano,
Mae'n debyg iawn cawn destyn cân
Na dderfydd byth ddadseinio honno.