Caniadau John Morris-Jones/Blodeuyn yr Alaw

Y Gaer sy ger y Lli Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Cwyn y Gwrthodedig

BLODEUYN YR ALAW

Fe gyfyd teg flodeuyn
Ei ben o'r gloyw lyn,
A'i leithion ddail yn crynu,
Ac ef fel eira gwyn.

Y lloer a deifl ei llewych
Yn euraid oll o'r nef,
A'i phelydr oll a lifodd
Yn syth i'w fynwes ef.


O gylch yr alaw'r hwylia
Cain alarch gwyn ei liw;
Mor bêr a mwyn mae'n canu
Wrth weld y lili wiw.

Mor bêr a mwyn mae'n canu,
Mewn cân bydd farw ef;
Wyt ti, wen alaw, 'n deall
Ei beraidd lathraidd lef?

Geibel.


Nodiadau

golygu