Caniadau John Morris-Jones/Codi'r bore wnaf a gofyn

Salm i Famon rhan 3 Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Brydferth grud fy holl ofalon

CYFIEITHIADAU

O'r Almaeneg

CATHLAU HEINE

Ganed Heinrich Heine, o rieni Iddewig, yn nhref Düsseldorf ar y 23ain o Ragfyr, 1799. Bywyd helbulus a fu iddo. Yn 1831 fe aeth o'i wir fodd i drigo'n alltud yn ninas Paris; ac yno, wedi cystudd maith a phoenus, y bu farw, ar y 17eg o Chwefror, 1856. Seinier yr enw Heine yn ddwy sillaf, fel petai'n air Cymraeg.

I

Codi'r bore wnaf, a gofyn,
"Ddaw f'anwylyd i?"
Gorffwys yn yr hwyr, a chwyno,
"Draw'r arhosodd hi.

Gorwedd yno'r nos yn effro,
Gyda'm gofid prudd;
Wedyn crwydro'n hanner huno
Dan freuddwydio'r dydd.


Nodiadau

golygu