Caniadau John Morris-Jones/Cynghorion Cariad
← Cwyn y Gwrthodedig | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cathlau Serch → |
CYNGHORION CARIAD
O gwrando arnaf, eneth,
Achubwn flaen y dydd,
Oherwydd bore einioes
I serch yn gweddu sydd;
Gad i ddoethineb watwar
Ein hocheneidiau ni;
Gwell ydyw tristwch cariad
Na'i hoer bleserau hi.
—De Jouy.