Caniadau John Morris-Jones/Er pan aeth fanwylyd i
← E saif pinwydden unig | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
I'r ardd ryw fore hafaidd → |
IX
Er pan aeth f'anwylyd i,
Aeth a gwenu gyda hi;
Llawer geisiodd leddfu 'nghlwy,
Ond ni allaf wenu mwy.
Er pan gollais f'annwyl i,
Collais wylo gyda hi;
Mae fy nghalon fach yn ddwy,
Ond ni allaf wylo mwy.