Caniadau John Morris-Jones/I'r Gog
← Ffyddlondeb | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Mary fy Mun → |
I'R GOG
O hoyw ymwelydd! clywais di,
Clywaf a llawenhâf;
Ai d'alw di 'n aderyn, Gog,
Ai'n llais crwydredig gaf?
Pan fwyf yn gorwedd ar y gwellt,
Daw'th ddeublyg lef i'm clyw;
Mae fel pe'n gwibio o fryn i fryn,
A phell ac agos yw.
Ac er na cheni ond i'r ddôl
Am haul a blodau cu,
I minnau dygi chwedlau am
Ryw hudol oriau fu.
Anwylyd Gwanwyn, croeso it!
Fyth nid aderyn ddim,
Ond rhywbeth anweledig―llais
A chyfrin beth wyt im.
Yr un yn nyddiau f’ysgol gynt
Wrandewais; dyna'r llef
A wnaeth im edrych fil o ffyrdd,
I'r llwyn, a'r coed, a'r nef.
A chrwydro'n aml i'th geisio di
Drwy goed a chaeau wnawn;
Rhyw serch, rhyw obaith oeddit fyth;
A'th weled fyth nis cawn.
A'th wrando eto allaf fi,
Caf orwedd ar y ddôl
A gwrando, nes im ddwyn yr aur
Amseroedd hynny'n ol.
Aderyn glwys! ymddangos fyth
Wna'r ddaear droediwn ni
Fel ansylweddol, ledrith le:
Dy addas gartref di.
—Wordsworth.