Caniadau John Morris-Jones/Môn a Menai
← Y Crythor Dall | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Gwylanod → |
MÔN A MENAI
Llon y gwenaì
Afon Fenai
Gyda glennydd Môn ;
Coedydd tirion,
O, mor irion
Ddechreu'r haf y trôn'.
Mae dy wên fel tegwch Menai,
Tirf wyt ti fel gwanwyn Môn.
Yng nghanghennau
Irion brennau
Clir a phêr yw tôn
Adar llawen
Yn eu hawen
Gyda glennydd Môn.
Mae dy lais fel llais yr adar
Sydd yn canu 'nghoedydd Môn.
Mwy y'm denai
Môn a Menai
Nag y gallaf sôn ;
Mi ddychwelwn
Awn lle'r elwn
Fyth yn ol i Fôn.
Mwy y'th gerais di, f 'anwylyd,
Mwy na Menai, mwy na Môn.