Caniadau John Morris-Jones/Ni soniais am dy ffalster

Yr eneth ger y waneg Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Mae'r môr yn loyw'n nhywyn haul

XXXIV


Ni soniais am dy ffalster
Wrth undyn yn y byd,
Ond dwedais wrth y pysgod
Sydd yn y môr i gyd.

Dy enw da adewais
Yn unig ar y tir;
Ond gwyddant yn yr eigion,
Bob parth, dy warth yn wir.


Nodiadau

golygu