Caniadau John Morris-Jones/Pe gwypai'r mân flodeuos

Ers myrddiwn maith o oesoedd Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Paham, fy nghariad deg, yn awr

VI

Pe gwypai'r mân flodeuos
Mor friw yw 'nghalon i,
I leddfu 'ngofid wylai
Y blodau gyda mi.


Pe gwypynt hwy'r eosiaid
Mor drist a chlwyfus wyf,
Anadlent hoywon odlau
I esmwythau fy nghlwyf.

A'r sêr, pe gwypynt hwythau
O'm dirfawr alar ddim,
Hwy ddoent i lawr o'u nefoedd
I adrodd cysur im.

Ni ŵyr yr un ohonynt,
Un ŵyr fy ngofid i;
A honno 'i hun a wanodd,
A wanodd fy nghalon i.


Nodiadau

golygu