Caniadau John Morris-Jones/Rhieingerdd
← Fy Ngardd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Cwyn yr Unig → |
RHIEINGERDD
Main firain riain gain Gymraeg.—Casnodyn.
Dau lygad disglair fel dwy em
Sydd i'm hanwylyd i,
Ond na bu em belydrai 'rioed
Mor fwyn a'i llygad hi.
Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn
Mai'r cann claerwynnaf yw,
Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn,
Anwylach ynei liw.
Mae holl dyneraf liwiau'r rhos
Yn hofran ar ei grudd;
Mae'i gwefus fel pe cawsai 'i lliw
O waed y grawnwin rhudd.
A chlir felyslais ar ei min
A glywir megis cân
Y gloyw ddŵr yn tincial dros
Y cerrig gwynion mân.
A chain y seinia'r hen Gymraeg
Yn ei hyfrydlais hi;
Mae iaith bereiddia'r ddaear hon
Ar enau 'nghariad i.
A synio'r wyf mai sŵn yr iaith,
Wrth lithro dros ei min,
Roes i'w gwefusau'r lluniaidd dro,
A lliw a blas y gwin.