Caniadau John Morris-Jones/Seiriol a Chybi
← Yr Afon yn y Coed | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Y Morgrug → |
SEIRIOL A CHYBI
Seiriol Wyn a Chybi Felyn —
Mynych fyth y clywir sôn
Am ddau sant y ddwy orynys
Ar dueddau Môn.
Ynys Cybi'm Môr Iwerddon,
Trosti hi'r â'r haul i lawr;
Ynys Seiriol yn y dwyrain
Tua thoriad gwawr.
Seiriol Wyn a Chybi Felyn—
Cyfarfyddynt, fel mae'r sôn,
Beunydd wrth ffynhonnau Clorach
Yng nghanolbarth Môn.
Seiriol, pan gychwynnai'r bore,
Cefnu wnâi ar haul y nef;
Wrth ddychwelyd cefnai hefyd
Ar ei belydr ef.
Haul y bore'n wyneb Cybi
A dywynnai'n danbaid iawn;
Yn ei wyneb y tywynnai
Eilwaith haul prynhawn.
Wyneb Cybi droes yn felyn,
Wyneb Seiriol ddaliai'n wyn;
Dyna draetha'r cyferwyddyd
Am y ddeusant hyn.
Mi ni wn ai gwir yr hanes,
Ond mae'i faich yn wir o hyd;
Dengys anghyfartal dynged
Dynion yn y byd.
Caiff y naill, aed ffordd yr elo,
Mewn cysgodion rodio'n rhydd;
Rhaid i'r llall o hyd wynebu
Pwys a gwres y dydd.