Caniadau John Morris-Jones/Ti f'Anwylyd yw 'Mrenhines

Yr Haul a'r Gwenith Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Yr Afon yn y Coed

TI F'ANWYLYD YW 'MRENHINES

Ti, f'anwylyd, yw 'mrenhines,
Minnau yw dy deyrnas di;
O, f'anwylyd, dychwel ataf,
Gweddw hebot ydwyf fi.

Yn fy nghalon mae d'orseddfainc,
Gwag yw honno hebot ti;
Tyrd i lenwi'r gwagle anial
Sy'n diffeithio 'nghalon i.

Anllywodraeth sy'n dy deyrnas,
A rhyw gynnwrf hebot ti;
Eistedd eilwaith ar d’orseddfainc,
Estyn dangnef drosti hi.

Os dychweli, fe dry'r cynnwrf
Yn orfoledd ynof fi;
A dylifo wna'm serchiadau
Allan oll er d'arfoll di.

O, f'anwylyd dychwel ataf,
Gweddw hebot ydwyf fi;
Ti, f'anwylyd, yw 'mrenhines,
Minnau yw dy deyrnas di.


Nodiadau

golygu