Caniadau John Morris-Jones/Y Blodeuglwm
← Y Dymuniad | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Llateiaeth yr Awelon → |
Y BLODEUGLWM
Fugeiliaid cesglwch imi
O flodau detholedig,
Addewais glwm plethedig
O'r rhain i Wenno dlos;
Mi a'i gwnawn i gyd fy hunan,
Ond hwyr yw'r awr i hynny;
Mae'r wawrddydd yn tywynnu
Yn wridog fel y rhos.
Dywedaf fi mai minnau
A'i gwnaeth i'r eneth fwynaf;
Ond O, pam y difwynaf
Fy ngwefus wrthi hi ?
Nis mynnaf; a phes mynnwn,
Hi wyddai wrth eu nodau,
O fil a mil o flodau,
Pa rai fai 'mlodau i.
—Ugo Foscolo.