Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Cerbyd Eira Dr Williams, Bala
← Y Bwthyn ar Ferwyn | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
I Miss Emily Ellis, Red Lion → |
CERBYD EIRA DR. WILLIAMS.
(Gwneuthuredig gan Mr. Evan Williams, Coach Builder, Bala.)
N Nhawelfan, wrth y drws,
Mae cerbyd tlws heb olwyn,
A yn gyflym ar ei hynt
Fel corwynt wedi cychwyn,
Ynddo 'r Doctor cyn bo hir
A welir yn anwylun.
Pwy ddychmygai weled hwn
Yn cychwyn heb olwynion;
Trwy yr eira trwchus gwyn,
Hyd hyfwyn lethrau Meirion;
Rhyfedd gweled peth fel hyn
Fel deryn yn Edeyrnion.
Os bydd clefyd yn y wlad,
Ar alwad fe fydd yno;
Trwy y lluwch a'r eira mân
Yn fuan gall drafaelio;
Gyda'r cerbyd rhyfedd hwn,
Heb olwyn trwstfawr dano.
Methu weithiau wna y tren,
Mewn heunen fawr o eira;
Mignid erwin rydd full stop,
I'w gialop yn y gaua;
Ond fe groesa'r cerbyd hwn
Heb olwyn o dre'r Bala.
Chwith fydd gweled hwn yn ben,
O Rhyd—y—fen yn cychwyn ;
Ar ei daith trwy'r eira gwyn,
Trwy Gelyn fel y coblyn;
Gwarchod anwyl, cyn bo hir
Fe'i gwelir yn Llanuwchllyn.
Mlaen mae'r oes yn myn'd o hyd
Ac hefyd y cerbydau;
Ni ryfeddwn cyn bo hir
Pe'i gwelir heb geffylau,
Yma 'acw hyd y wlad
Yn curo cenad angau.