Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/I Constance Mary

Mynwent Llanycil Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

St Paul

I CONSTANCE MARY
Merch Syr W. W. Wynne, Barwnig, anwyd yn mhalas Glanllyn, ger y Bala

YMDAENODD gwen o falchder tros y wlad
Pan wenodd Constance Mary ar ei thad,
Mewn palas yn Meirionydd;
Mor hardd disgleiria'r haul ar ael y don—
Ym mraich y gwynt y tonau ddawnsia'n llon,
Mewn cryd gerllaw maent yn croesawu hon
I'r palas yn Meirionydd.

Mae enw hoff Syr W. W. Wynne
I'r Cymry fel yr haul ar donau'r llyn,
Yn ddisglaer yn ei hanes;
Ni byddai cyfrol hanes Cymru fad,
Yn gyflawn heb y Wyniaid yn ein gwlad,
A'u henwau gedwir genym mewn mawrhad,
Tra'n cofio'r brad a'r gormes.

Adseinia swn llawenydd mewn hwre
O Feirion fad i balas hardd Wynnstay,
O barch i'r fechan siriol;
Yn hyn mae pawb yn llawenhau ynghyd
Pan yn croesawu hon i'r teyrngar gryd,
A Chymru gyfan wylia hwn o hyd
Fel trysor etifeddol.

Bydd Glan-y-Llyn yn hanes Cymru Fydd,
Yn cadarnhau mai un Syr Watcyn sydd
Arddelir gan y Cymry;
Tywysog yw yn haeddu parch a bri,
Fel un yn caru iaith ein cenedl ni,
A bloeddiwn tra bo geiriau ynddi hi,
Byw byth y bo'r hen deulu.


Nodiadau

golygu