Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/I Lyfr fy nghyfaill Gwaenfab
← Os mathrwyd y gelyn | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Llygaid y dydd → |
I LYFR FY NGHYFAILL GWAENFAB[1]
ΕΙ "Furmuron" tirionwedd—anwylir
Gan luoedd trwy Wynedd;
Yn ei lyfr rhydd i ni wledd,
Gâr enaid mewn gwirionedd.
Dyma uniad—dymunol,—ein Gwaenfab
Mewn gwynfyd barddonol;
Ei ddoniau awenyddol
I oesau fyrdd saif o'i ol.
Nodiadau
golygu- ↑ Murmuron Awen, Robert Roberts (Gwaenfab), Davies & Evans Y Bala, 1895