Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Ifor Wyn o'r Hafod Elwy
← Wrth Dân o Fawn | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Llinellau Dyhuddol am Meyrick → |
IFOR WYN O'R HAFOD ELWY
(Bugeilgerdd)
AR noson oer auafol yn Hafod Elwy lân,
Eisteddai teulu Owen Wyn wrth danllwyth mawr o dân.
Ymdaena gwen o falchder tros wyneb Owen Wyn
Tra'n gwrando ar y plantos mân yn cyfrif rhif y myn,
Adgofiai hyny iddo am flwyddi o fwynhad
A dreuliodd yntau'n moreu'i oes i wylio praidd ei dad;
A chyda llais crynedig, dywedodd wrth y plant
Am lawer o helyntion blin ddigwyddodd ger y nant;
Ac erbyn hyn distawrwydd deyrnasai yn y ty,
Er mwyn cael clywed taid yn dweyd hoff hanes Cymru " Fu.
'Mae,' ebai , ddeugain mlynedd er pan ' own gyda'm tad
Yn eistedd ar y Mynydd Du, yn syllu ar y wlad;
Ac o'r olygfa swynol a welid ar bob llaw,—
Y defaid mân yn chwareu 'n llon ar fron y Moelwyn draw,
Islaw y dyffryn wenai'r un fath ag Eden gynt,
A miwsig yr afonig sydd yn d'od ar fraich y gwynt;
Draw yn y pellter gwelid y Llyn a'i glawr fel drych
Yn dangos y mynyddoedd ban ar lawnt ei donau crych,
Gerllaw, ar fin y tonau ' roedd Eglwys hen y plwy
Yn taflu ei chysgodion hardd o un i fod yn ddwy.
'Ond,' ebai'm tad yn sydyn—'A weli di y llwyn
O goed sydd tu 'cha'r fynwent werdd ar lan yr uwchaf dwyn?
'Rwy'n cofio pan yn fachgen, i'th daid fy anfon i
Ar noson loergan ddiwedd ha', yng nghwmni hoff fy nghi,
I ' nol rhyw yrr o ddefaid o ffermdy Hendre mawr,
Fel gallwn gychwyn adre'n ol ar doriad cynta'r wawr.
Mae'n anhawdd i ti , Owen , ddychmygu'r braw a ges',
Pan welwn na ddoi Cymro'r ci ' run lathen ata i'n nes;
Edrychais o fy neutu,—a gwelais haner cant
O fodau bach mewn mentyll gwyrdd yn llawer llai na'r plant,
Sibrydodd un o honynt, yn debyg iawn i hyn,—
Ai chwi yw aer yr Hafod draw, ai chwi yw Owain Wyn?'
Rhyfeddais wrth ei chlywed, edrychais arni'n deg,
A toc gofynais iddi hi, Ai chwi yw'r tylwyth teg?'
Atebodd eu brenhines, gan wenu arna' i 'n llon,
Nyni yw teulu'r tylwyth teg,' yn ddistaw meddai hon,
'Mae genyın balas gorwych o dan eich daear chwi,
Os mynwch chwithau, Ifor Wyn, cewch ddyfod gyda ni.'
A phan ar gychwyn atynt, i uno gyda'u cais,
Fe glywais rywun atain dod, gwrandewais ar eu llais:
Diflanodd y tylwythion, gan fyn'd o dwyn i dwyn,
A chanfu 'nhad fi ar y llawr yn nghanol swp o frwyn;
Yn ol i'r Hafod Elwy y daethum ni ein dau,
Gan adael y tylwythion teg o dwyn i dwyn yn gwau.
Fy nhad, fy nhad,' medd Ifor Wyn—
Sef Ifor Wyn y nai,
'A ydych chwi yn credu hyn?
Maddeuwch im' fy mai,
Mae cymaint o chwedleuon am
Y Tylwyth Teg trwy'r byd,
Ond dyna sydd yn rhyfedd, pam
Na ddeuant hwy o hyd?'
Fy mab, fy mab,' medd Owain Wyn,
Fy amheu nid oes raid,
Ac oni chlywaist ti cyn hyn
Mai geirwir oedd dy daid?
Ond am y Tylwyth Teg nis gwn
Pa le y maent yn awr,
Ond digon im' fod hwn a hwn
Yn dweyd mai dan y llawr.'
'E deimlai 'r plant yn brudd eu bron
Wrth wrando ar eu tad
Yn amheu fod y chwedl hon
Yr oreu yn y wlad;
Nis gallent hwy amgyffred chwaith,
Er meddwl mwy a mwy,
Paham fod llygaid taid mor llaith
Wrth edrych arnynt hwy.
A dyna dd'wedai cyn bo hir,
'Fy mhlant, na foed i chwi
Anghofio arddel byth y gwir
Sydd yn ein teulu ni;
Ewch oll i ben y Mynydd Du,
A chofiwch hyn bob dydd,
Fod hanes anwyl Cymru Fu
Yn rhan o Gymru Sydd.
Yr haul a'i aur belydrau gusanai gyda gwên
Gan ymlid mantell dywell nos oddi ar y muriau hen—
Y rhai fel dolen gydiol, draw o'r gorphenol mud,
Fu'n uno teulu Ifor Wyn trwy oesau maith y byd.
Hen fangre gysegredig oedd aelwyd lan y ty
I dremio'n mhell tu draw i'r niwl i hanes Cymru Fu;
Edrychai pawb yn hapus wrth danllwyth mawr o dân
Tra un yn nyddu gyda'r droell a'r llall yn trwsio gwlan,
A'r plant o gylch yr aelwyd—yn nwyfus ac yn llon,
Yn gwylio'u tad yn gwneyd llwy bren neu ynteu wneyd ei ffon.
'Rol cadw'r pecinynau, a'r llestri oll i gyd,
Darllenai taid o'r Beibl mawr ryw benod ar ei hyd,
A byddai yn egluro—adnodau ddwy neu dair,
Er mwyn i'r plant gael gwybod beth feddylid wrth y Gair;
Ac yna äi i weddi,—gweddio'n daer wnai ef,
Gan dywallt ei holl enaid glân wrth orseddfainc y nef:
Ar ol y weddi gwelid y plant o un i un
Yn myn'd i fro'r breuddwydion pur, i wlad y melus hûn.
Ac yno gwelant weithian Dylwythau Teg yn fyrdd
Yn dawnsio ar ryw lecyn hardd, yr oll mewn mentyll gwyrdd,
A 'Teida' yn eu canol yn dawnsio 'n ddigon llon,
A Chymro'r ci wrth fòn y gwrych oedd yno'n gwylio'i ffon;
Ac O mor ddedwydd fyddai'r plant wrth ddweyd'r hanesion hyn
Wrth un wrandawsai arnynt oll ar aelwyd Ifor Wyn.
Pan godai'r haul o'i wawrlys i erlid mantell nos,
Fe welid Ifor Wyn a'i gi draw, draw yn croesi'r rhos,
Edmygedd lanwai'i galon wrth syllu ar yr wyn
Yn prancio draw ar ael y bryn uwchben y teisi brwyn;
Fry, fry, yn mror cymylau, fe glywai'r hedydd mwyn
Yn arllwys môr o gân i Dduw, a'i nodau'n llawn o swyn;
A draw ar frig y goeden fe glywai'r deryn du
Yn pyncio mwyn acenion nef yn ymyl drws y ty,
'Roedd hithau'r gwcw werddlas ar gaine y fedwen werdd
Yn dweyd cwcw, cwcw, o hyd ac yn blaenori'r gerdd;
A dacw'r fronfraith seinber fry, fry, ar flaen y pren
Fel pe yn dweyd wrth Ifor Wyn, wi-wi, myfi yw'r pen;
Fel hyn 'roedd cor y goedwig yn adsain rhwng y dail,
Gan foli eu Creawdwr doeth mewn odlau bob yn ail.
Caed hwythau y briallu, a'r dagrau ar eu grudd,
Yn gwenu draw ar war y ffos wrth weled cawr y dydd
Yn dyfod i'w cusanu ; a'r gwlith fel pe ar frys
Ddiflanent trwy'r eangder maith yn ol i'w freiniol lys.
Ha, myrdd o heirdd lygadon a wenant ar bob llaw,
A phob blodeuyn bychan tlws yn dweyd mai dwyfol law
Fu'n paentio eu hymylon; a gwelai Ifor Wyn
Fod Duw yn amlwg yn ei waith yn gwneyd y pethau hyn.
Ymgripia ci y bugail i ben y mynydd mawr,
Yn swn brefiadau'r defaid mân gan ddod a hwy i lawr;
Edrychai Ifor arnynt fel ar gyfeillion mâd,
A dyna dd'wedai wrtho'i hun, 'Eich gwell ni fedd y wlad;'
Roedd son am deulu'rHafod a'u defaid trwy'r holl wlad,
Fel bugail caed yn Ifor Wyn cain ddarlun byw o'i dad.
Arferiad teulu 'r Hafod, ar Ddydd Gwyl Dewi Sant,
Oedd gwisgo y geninen werdd, 'rhon dyfai'r fin y nant;
A mawr oedd y llawenydd yn Hafod Elwy lân
Pan welwyd Taid ar bwys ei ffon ar fin y dyfroedd glân,
Yn hel yr hardd geninen,—a'r plant o un i un
Ddanghosent iddo yn y dwfr mor anwyl oedd ei lun;
A gwiriwyd y ddihareb—a hyny gyda gwen,
Fod pob hen wr fel Teida Wyn yn blentyn pan yn hen,
'R ol gwisgo pawb o'r cenin dychwelodd Taid yn ol
I'r ty, ac ymaith 'raeth y plant i chwareu hyd ddol:
Ond cyn bo hir fe welsant eu tad yn dod draw, draw,
Yn cario yn ei freichiau oen, a dafad yn ei law;
Fe redent am y cynta i'r Hafod at eu mham
Iddweyd fod tada bach yn dod tros gamdda'r Werglodd gam;
Ac o mor siriol 'roeddynt, rhyw ddarlun prydferth tlws
Oedd gweled teulu Ifor Wyn'n ei ddisgwyl yn y drws.
Ychydig wyddai Ifor Wyn fod angau, brenin braw,
Ar ddod cyn hir i'w anwyl fwth a'i gleddyf yn ei law.
Ymsuddai'r haul i'w wely, a lleni'r distaw nos
Yn araf ddaeth gan daflu'i chlog tros wyneb bryn a rhos,
Ac anian aeth i huno i ddistaw fedd y dydd,
Tra gwyliai'r ser a'r lleuad dlos y dwyfol flodau blydd:
'Roedd taid yn dweyd chwedleuon, er mwyn dyddanu'r plant,
Am wyrthiau rhyfedd wnaed cyn hyn trwy'r wlad gan Dewi Sant,
A dyna'r noson olaf i'r teulu dedwydd hyn
Gael gwrando ar chwedleuon hoff yr anwyl Teida Wyn.
Niwl caddugol yn gorchuddio
'R bryniau pell a mantell ddu,
Haul y boreu yn ymguddio
Draw yn yr eangder fry;
Yr oedd brenin dychryniadau
Wedi gweinio 'i gledd pryd hyn,
Chwerw, chwerw oedd y dagrau
Gaed yn nheulu Ifor Wyn.
Yr oedd gwisgoedd y mynyddau
Fel pe'n dweyd yr hanes prudd
Hefyd gwelwyd ar y blodau
Ddagrau bychain yn mhob grudd;
Draw i'r fynwent fe hebryngwyd
Gorph yr anwyl Teida Wyn,
Dagrau gwlad pryd hyny gollwyd
Gylch ei fedd ar fin y llyn.
Daeth yr haul i sychu'r dagrau
Gaed ar ruddiau blodau'r glyn,
Ond nis gallai 'i aur belydrau
Sychu dagrau Ifor Wyn;
Fe roed blodau haf i wenu
Ar oer wely Teida Wyn,
Dagrau'r teulu wedi hyny
Fu'n eneinio'r blodau hyn.
Rhyw ail-argraffiad rhyfedd o natur ydyw dyn,
Portread cywir wedi'i wneyd ar ddelw Duw ei hun;
Ceir gwanwyn, haf, ac hydref, a'r gauaf gyda loes,
Y gwallt yn wyn, yn lle yr ia, yn addurn diwedd oes;
'E ddaw hoff ddail y gwanwyn i wenu ar y byd,
A daw y plentyn bychan tlws i wenu yn ei gryd;
Fe syrth y ddeilen wedyn i wywo'r fedd yr ha',
A dyna ydyw hanes dyn, yn ol i'r pridd yr a,—
Fel hyn mae y tymhorau yn dod o un i un,
Ac aelwyd Hafod Elwy lân o hyd yn tynu 'u llun,
A blwyddyn ar ol blwyddyn yn myned ar ei hynt
I gadw i fedd amser prudd, ond yma ceir fel gynt
Fugeiliaid yn yr Hafod, a defaid ar y bryn,
A'r wyn yn prancio yma 'thraw yn ngolwg Ifor Wyn,
A chedwir hen arferion yr Hafod eto 'n ir
Gan deulu dedwydd Ifor Wyn, ac arddel maent y gwir;
Y praidd a geir yn pori ar ben y Mynydd Du,
A swn bugeiliol glywir draw oddeutu drws y ty,
Y Beibl mawr ddarllenir—hen Feibl Teida Wyn—
Ac yn y teulu fe geir hwn yn nghadw hyd yn hyn;
Tra bugail yn yr Hafod i wylio 'r defaid mân,
Bugeilio wna'r hen Feibl mawr hyd fryniau Canaan lân.