Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/John Penri

Cerbyd y Cigydd Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Thomas Charles o'r Bala

JOHN PENRI

PAN oedd Cymru'n nghaddug dudew anghrediniaeth,
Pan oedd pechod yn teyrnasu'n ben;
Wele Penri, seren foreu gwaredigaeth,
Yn disgleirio yn ffurfafen Cymru wen;
Gwelodd pan yn crwydro 'i hen wlad enedigol,
Angen ei gyfoedion annuw am y Gair.
Penderfynodd ef trwy gymorth yr Anfeidrol,
Ddangos gwerth yr Hwn fu gynt ar liniau Mair.
Bu'n hiraethu pan yn ieuanc yn Brycheiniog,
Am ddyfodiad gwawr oleuni ar y wlad,—
Yno teimlodd fod Gwaredwr mor ardderchog,
Yn Gyfryngwr rhyngddo ef a'i nefol Dad.
Bu yn gweddio ar y nefoedd am wybodaeth,
I ddadblygu maint yr Iawn fu ar y Groes;
Ac mae'r nefoedd iddo 'n estyn haul dysgeidiaeth
I'w oleuo, trwy dywyllwch dudew'r oes.
Draw i Gaegrawnt y cychwynodd ef o Gymru,
Yn llawn hyder i lafurio at y gwaith;
Yno 'n ddiwyd am flynyddau bu'n efrydu,
Er mwyn arwain Cymry druain ar eu taith;
Byddai weithian yn dod adref i hyfforddi,
Rhai sychedai am y dyfroedd dwyfol byw.
Yna meiddia wg gelynion dirifedi,
Rhai chwareuent gydag achos mawr eu Duw
Mor ddeniadol oedd ei glywed yn taer erfyn
Am dywalltiad Ysbryd sanctaidd pur y nef.
Fel y byddai yn gweddio dros y gelyn,—
Feiddia wadu Duw ag uchel lef.

O! adfydus Gymru anwyl, mor echryslawn,
Mor ofnadwy oedd dy bechod a dy gri;
Dy drigolion anwybodus, mor anghyfiawn
Oeddynt hwy i farnu dy weithredoedd di;
Ah! mor chwerw oedd y dagrau wylodd Penri,
Wrth dy weled ti yn suddo 'n is o hyd,
I'r dyfnderoedd tros geulanau erch trueni,
I gyfarfod cyflog pechod mewn ail fyd.

Bu yn feddyg i addysgu y trueiniaid,
Ffordd i'r ddinas ddwyfol ddisglaer lle nad oes
Ond molianu gan angylion a cherubiaid,
Wrth orseddfa 'r hwn fu farw ar y Groes;
Mor odidog oedd ei allu i gynllunio—
Addas lwybrau i'r anffodus rai,
Aeth at ddoethion senedd Prydain i ymbilio
Am gyfreithiau i ddinoethi'r erchyll fai
Oedd yn gorwedd ar ysgwyddau gwag estroniaid
Eiddigeddus, heb wybodaeth am yr iaith ;
Trwy ba un i lywodraethu ei anwyliaid
A newynent trwy eu llygredigol waith.


Yn nghrombil ddu y ddaear oer,
Fe'i dodwyd ef i orwedd,
Mewn man nas gallai wel'd y lloer.
Na goleu 'r dydd a'i fawredd ;
Er hyny clywai lais yr Ior,
Yn sibrwd rhwng y muriau
Fod ei drugaredd fel y mor,
Yn golchi 'n wyn 'r holl feiau.

Pe codid cwr o'r ddwyfol len,
Fe welid yr angylion
Yn agor pyrth y nefoedd wen
I'w dderbyn o'i dreialon;
'R oedd yno le ger mainc yr Ior,
Yn disgwyl oedd am dano,
A phawb yn canu heb ddim poen,
A'r Iesu yno'n gwrando.

Mor ddwys gweddiai ar ei Dad
Am atal y llifeiriant
Ofnadwy dreiglai tros y wlad
Yn ddiluw o ddigofaint;
Er iddynt ei garcharu ef
Mewn carchar tywyll unig,
Fe glywai engyl nef y nef
Yn canu 'r nefol odlig.


Ond ust! dyna guro, wrth ddrws y carchardy,
Mae'n clywed swn traed ar y palmant;
Mae'r gelyn yn dyfod a'u lleisiau 'n taranu,
Agorant y drws ac edrychant;
Ac yno canfyddant y gwrol John Penri
A'i ddwylaw yn bleth yn gweddio,
Gan erfyn am gymorth y nefoedd i'w deulu
A'r rhai yr oedd ef yn ymado.
Arweiniwyd ef allan o'i gell dan—ddaearol
I ddioddef wrth stanc oedd yn fflamio;
A'i enaid ehedodd ar lam i'r byd oesol,
I dderbyn ei wobr oedd yno.


Nodiadau

golygu