Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Maggie
← Y nhw sy'n dweyd | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
I Gymdeithas Ddirwestol → |
MAGGIE
Sef anwyl ferch Mr, a Mrs. R. Roberts, (Miller) Ffrydan Road, Bala.
PAN oedd blodau 'r hâf yn huno
Mewn tawelwch byd o hedd,
Dododd natur arnynt amdo
Hardd o eira ar eu sedd;
Pan orchuddiwyd y teg flodau,
Collodd byd ei brydferth wedd,
Felly collwyd un o berlau
Hoff y teulu—gyda'r blodau,
Pan roed Maggie yn ei bedd.
Pan bydd blodau'r haf yn gwywo,
Geilw anian hwy yn ol,
Gan eu gosod i addurno
Mewn gogoniant ar y ddol;
Deffro, deffro, wna y blodau
I ail wenu ar y byd;
Deffro hefyd ddarfu hithau,
Maggie fechan, fry yn mreichiau'r
Iesu, yno 'i fyw o hyd.
Pan bydd blodau'r haf yn gwenu
Ar ei beddrod bychan hi,
Gwena hithau gyda'r Iesu
Yn yr ardd dragwyddol fry.
Er mor hardd yw'r blodau
Sydd yn gwenu ar y byd,
Harddach ydyw y cain flodion
Sydd yn canu nef acenion
Tragwyddoldeb ar ei hyd.