Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Merch y Morwr
← Caergai | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Fron-fraith → |
MERCH Y MORWR.
Dernyn Adroddiadol,
MAE'N nos,
A drws y bwthyn wedi 'i gau,
Y mellt yn gwibio ac yn gwau
Oddeutu'r bwthyn unig;
Y gwynt yn chwythu'n groch uwchben,
Taranau certh yn rhwygo'r nen,
Cymylau duon guddia'r llen
O olwg byd anniddig.
Y môr yn lluchio'i ferwawg li
Yn drochion gwyn—a'i erchyll gri
'N arswydo'r eneth unig
Eisteddai yn y bwthyn mad
Gan ddisgwyl clywed llais ei thad,
Yr hwn aeth allan yn ei fâd
Ar frig y don ferwedig.
Bedd-feini ydyw tonau'r môr,
I fyrdd o forwyr mae ei stor
O feddau yn ddi-ri';
Y creigiau crog sydd yma'n fud—
Maent yma er pan seiliwyd byd
Yn gwylio'r morwr yn ei gryd
Uwch dyfrllyd fedd y weilgi.
"Y bâd,"
Y bâd sy'n dod ar frig yr aig
Yn nes, yn nes at gwr y graig,
Heb hwyl, heb law i'w lywio;
Mae'r hwn arferai droi y llyw
Yn mhell, yn mhell o dir y byw,
Yn llywio'i delyn gyda Duw,
Yr hwn a'i rhoddes iddo.
A'i dwylaw'n mhleth ar aelwyd oer,
Heb oleu tân, heb oleu lloer,
Penliniai merch y morwr:
'R oedd dagrau gloewon ar ei grudd
Yn berlau byw, ond perlau prudd
Oedd rhei'ny gawd cyn toriad dydd
Ar ruddiau merch y morwr.
'E godai'r fun unig ei golwg,
A gwaeddai "O Arglwydd fy Ior,
Fy Iesu trugarog, fy Ngheidwad,
Fy Mhrynwr, rheolwr y môr—
O cadw! O cadw!! 'r bâd bychan
Rhag suddo i fynwes yr aig,
O estyn dy law fendigedig
I'w achub o ddanedd y graig."
'Roedd gwrando'r fath weddi nefolaidd
Yn gwneyd yr angylion yn fud,
A safent o gylch y Creawdwr
I ddisgwyl ei genad i'r byd;
Dychmygaf eu gweled yn hofran
Yn gadwen urddasol uwchben,
Gan sisial yr anthem felodaidd
Dragwyddol ddi-orphen y nen.
Ond ust! dyna floedd oddi allan,
Mae'r bâd wedi cyrhaedd y tir;
Pa le! O pa le mae y morwr?
Nid ydyw i'w weled yn wir;
Mae'r bâd ar y traeth yn ddrylliedig,
A'i ochrau yn ddarnau fel dellt,
A chlawr yr erch weilgi i'w weled
Yn eglur wrth oleu y mellt.
'R oedd yno un ar fin y traeth,
A'r tonau geirwon megis saeth
I'w chalon archolledig;
Sibrydai'n wan uwchben y lli,
"Fy nhad, fy nhad, pa le 'rwyt ti?
Fy Nuw, O derbyn—derbyn fi
I'th wynfa fendigedig;
Caf yno wel'd fy hoffus un,
Yn seinio cân i Fab y Dyn,
Am oesau maith diderfyn;
Bydd holl angylion nef y nef,
O gylch ei orsedd eurog ef,
Yn canu mawl ag uchel lef,
I Frenin gwlad y delyn."