Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Cenhadwr
← The dying child | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y Llyfr Gweddi → |
Y CENADWR
DAWN gwron, a dyngarwr,—leinw fyw
Galon fawr cenhadwr
Meiddia dân, a stormydd dwr,
Rhuadwy dros Waredwr.
Cwyd ei lef, lys-genad nefol,—am Dduw
A maddenant Iawnol;
A dena fyrdd o'u ffyrdd ffol
Trwy'r newydd, try'r annuwiol.
Dorau t'wyll gyfandiroedd,—agora
I gariad y nefoedd;
Hwnw yn gu wna'n goedd
Yn Iesu'r holl ynysoedd.