Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Y Parch Silas Evans
← Llongyfarchiad i'r Parch J Williams | Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig) gan Owen Lewis (Glan Cymerig) |
Y nhw sy'n dweyd → |
Y PARCH. SILAS EVANS
WRTH sylwi ar iaith Silas,—a'i araeth
Ddiguro, mor addas
Ydyw y gwr i wneyd gwas
I ddeon y brif-ddinas.
Ond i Dduw, nid i ddeon,—y galwyd
Y goleu wr mwynlon;
Trwy ei waith fe yrr iaith Ion
I'r enaid ar ei union.