Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)/Yr Eos

Fy Ngwlad Caniadau Owen Lewis (Glan Cymerig)

gan Owen Lewis (Glan Cymerig)

Cerbyd y Cigydd

Yr Eos

YN nghesail Berwyn gyda'r nos,
Fe gân yr eos fwyn;
Tra cysga anian ar y rhos,
Tra huna cor y llwyn;
Yn canu, canu y mae hi,
Ei nodau peraidd syw ;
A seiniau nef mae'n swyno ni,
Ei chân sy'n enaid byw.

Brenhines anian ydyw hon,
Brenhines cor y wig;
A phan y cân ar frig y fron,
O'i chylch dystawrwydd drig ;
Yn gwrando, gwrando mae y llu
Asgellog yn y llwyn,
Ar un sydd megis oddifry,
Yn llawn o nefawl swyn.

Aderyn hoff, croesawaf di
I fryniau Cymru lân;
Pa fan yn nghreadigaeth Ior,
Mor deilwng o dy gân?
Y dydd fe wylia'r haul dy lys,
A'r nos fe wylia'r ser,
O brysia eto atom ni,
I byncio'th geinciau per


Nodiadau

golygu