Caniadau Watcyn Wyn/Ar noson oer o gylch y tân

Y Dyn Diwyd Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Helynt y Meddwyn

"AR NOSON OER O GYLCH Y TAN."

AR noson oer o gylch y tân,
Eistedda'r teulu'n canu cân
Yr eira ar y clos
Yn gwisgo i fantell wen;

A mantell ddû y nos
Yn hongian uwch ei ben;
A gwynt y rhew bron sythu'n lân,
Yn crio y'nhwll y clo,
A'r plentyn ie'ngaf wrth y tân
Yn ei wawdio â "ho lo"
Ysgydwa'r drws, a rhodda floedd,
A throa'n ffyrnig draw
Yr hen astelli mudion oedd
Yn crynu yn ei law;
Ond cânu a chwerthin am ei ben
Mae teulu'r bwthyn tlws;
A'r fam yn gyru "Rhys" a sen
I ffwrdd oddiwrth y drws;
Mor ddedwydd ydyw teulu'r gân
Ar noson oer o gylch y tàn.

Nodiadau golygu