Caniadau Watcyn Wyn/De'wch, de'wch

Ac felly'n y bla'n Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Claf yn y Gwanwyn

"DE'WCH, DE'WCH."

MAE dysg yn cynyddu,
A dyn yn dringo' fyny,:
A'r ddaear yn ymgyrhaedd am y gwir
Mae rhyddid yn blaguro,
A rhinwedd yn blodeuo,
A goleu'r nef yn gwenu ar ein tir;
De'wch, de'wch,
De'wch ie'nctyd, de'wch,
De'wch yn y gân i uno i gyd;
Awn, awn, gyda'n gilydd,
Yn un dyrfa ddedwydd,
Dan gânu, awn dan gânu gyda'r byd.

Uchel-nôd perffeithrwydd,
Ar ben bryn enwogrwydd,
Fo'n taro ar y llygad byth yn glir;
Y'mlaen heb ddiffygio
Mae'n rhaid cyrhaedd yno,
Er fod y ffordd yn ddyrus, serth, a hir;
De'wch, de'wch,
Do'wch ie'nctyd, de'wch, &c.

Nodiadau golygu