Caniadau Watcyn Wyn/Mor llon ydym ni

Myn'd i Garu Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Yr Adar

"MOR LLON YDYM NI."

MOR felus yw cânu,
Er gwaethaf y byd,
Cawn ollwng i fyny
Ein gofid i gyd;
Nid erys gofidiau yn unman,
I wrando plant bychain yn taro y cydgan—
"Mor llon ydym ni."


Mae'r goedwig y gwanwyn
Yn gyngherdd o hyd;
A brigau y glaslwyn
Yn gydgan i gyd;
A'r awel yn cerdded â chân pob aderyn,
Yn gymysg a'u gilydd, o frigyn i frigyn
"Mor llon ydym ni."

Mae plant bach yn canu
Emynau'n y byd,
A'u lleisiau'n dyrchafu
I'r nefoedd ynghyd;
A'r adsain yn disgyn fel wedi phereiddio,
A lleisiau nefolaidd y plant bach sydd yno
"Mor llon ydym ni."


Nodiadau golygu