Caniadau Watcyn Wyn/O! tyr'd i fy Mynwes

Yr Excursion Train Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Brawd mogi yw tagu

"O! TYR'D I FY MYNWES."

EFELYCHIAD.

O TRY'D i fy fynwes, O tyr'd anwyl ferch,
Y fynwes feddianodd dy lun, a dy serch;
Y fynwes sy â'i chysur mor agos i mi,
Y fynwes sy a'i chalon mor agos i ti


O tyr'd i fy mynwes, os yw'th le yn wael,
Fy nghalou sy'n unig o eisiau dy gael;
Ond os i fy mynwes anniben y do'i,
Ti gai y lle goreu a fedr serch roi.

O tyr'd i fy mynwes, dy fynwes di yw,
Cei roesaw fy nghalon, tra byddo ni byw;
Ond os i fy mynwes na ddeui, fy ffrynd,
Caiff angau dy le—a dyna fe wedi myn'd.

O tyr'd i fy mynwes, O gwrando fy nghwyn,
Mae congl gysegredig yn wag er dy fwyn;
O tyr'd i fy mynwes yn gwmni trwy'r byd,
I garu, i fyw, ac i farw y'nghyd.

Nodiadau golygu