Caniadau Watcyn Wyn/Y Friallen Gyntaf

Y Llygad Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Y Goedwig

Y FRIALLEN GYNTAF.

AR fron y clawdd y'ngwyneb haul,
A gwyneb pur yn gwenu;
A llun y gwanwyn ar ei hael,
Fel newydd gael ei dynu;
A phurdeb gloew gwlith y nos,
Fel newydd ei sirioli,
Y boreu gwelsom wyneb tlos
Friallen newydd eni.

Y hi yn unig yma sy,
Ar fywyd yn wynebu;
Gwywedig ddail y gauaf dû
O gylch sydd heb eu claddu;
Y ddaear sydd yn llwyd ei gwedd,
Fel mynwent ddigynhyrfiad;
Ond saif hi'n wyn uwchben y bedd,
Fel angel adgyfodiad.


Nodiadau golygu