Caniadau Watcyn Wyn/Y Gwcw gynta' eleni

Yr Adar Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Yr Aderyn Dû

Y GWCW GYNTA' ELENI.

AR ysgafn droed, y wawrddydd wèn
A gerddai drwy y glaslwyn;
A'i llewyrch a ddangosai'r nen,
Yn wyrddlas fel y gwanwyn;
Yr awel gyntaf trwy y dail,
Yn araf grwydro;
Ar brigau'r derw bob yn ail
Ysgydwai'i ddeffro;

A cherddi'r adar mân
Yn tynu eu gilydd
I uno yn y gân,
Y'nghan y boreu newydd;
Y fronfraith a'r aderyn dû,:
'N cystadlu'r boreu hwnw;
A chlywid pig pob perchen plu,
Yn uno yn y berw;
A mil a myrdd o adar mân,
I'r gwanwyn gwyrdd yn chwiban cân;
Ond dyna lais yn d'od o'r coed,
Uwchlaw y cwbl,
A dery'n calon yn ddioed—
Hen nodyn dwbl
Y Gwcw!

Nodiadau golygu