Caniadau Watcyn Wyn/Y Wawr
← Ffyddlondeb Crefyddol | Caniadau Watcyn Wyn gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) |
Gwlithyn → |
Y WAWR
FFRWD O wawl orlifa
Dros y traeth o sêr!
Gwreichion haul arweinia
Ei fawrhydi ter,
Gloewa'r mân belydrau,
Chwydda'r tònau tân!
Y boreu ddaw
O'r dwyrain draw,
Yn ddylif gloëw glân!