Canmlwyddiant Marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A., Mawrth 3ydd, 1891
← | Canmlwyddiant Marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A., Mawrth 3ydd, 1891 gan Anhysbys |
→ |
CANMLWYDDIANT
Marwolaeth y Parch. John Wesley, M.A.
MAWRTH 3ydd, 1891.
'Rym heddyw 'n dathlu canmlwydd
Marwolaeth WESLEY gwiw;
Gwr mawr ei ddysg a'i ddoniau.
Gyfodwyd gan ei Dduw;
Mynegu 'roedd e'n ffyddlon
Holl gynghor Duw o hyd;
Sylfaenu wnaeth yr eglwys
Iachusaf yn y byd.
Ei wrthwynebu gafodd,
Gan lawer yn y byd;
Ond trwy yr Arglwydd Iesu,
Yn llwyddo 'roedd o hyd.
Fe gafodd yr hyfrydwch,
Cyn cyrhaedd fry i'r nef,
O weled ei ganlynwyr
Yn fyddin fawr a chref.
Mae miloedd, oes, ar filoedd
O'i wir ganlynwyr ef,
Oes, eisioes wedi cyrhaedd
Yn ddiogel iawn i'r nef.
Ac ar eu taith, filiynau
A welir fel y wawr;
Oll yn eu gynau gwynion,
Yn mhlith y dyrfa fawr.
O! boed i ninau beunydd
Ei efelychu ef,
Mewn buchedd ac mewn llafur,
Mewn ffydd a chariad gref;
Gweddio ac ymbilio,
Y byddom bawb o'r bron,
Am lwyddiant cyffredinol,
O fewn y flwyddyn hon.
Crist'nogaeth bur o ddifri'
Yw hoff Wesleyaeth bêr;
Yn cynyg iachawdwriaeth
I bawb o dan y ser;
Ymledu 'mlaen y byddo,
I bobman îs y rhod;
I lwyr oleuo'r hollfyd,
Y canmlwydd eto i dd'od.
Pontypridd.—J. R.
ADAM EVANS, ARGRAFFYDD, MACHYNLETH
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.