gan Rhys Prichard

(detholiad)

Cannwyll Cymru mae d’hen Feistyr
yn dy alw mewn rhyw lyfyr;
gwna dy swydd ar frys, gan hynny,
trwy oleuo pawb yng Nghymru.
Awn i Fethlem i gael gweled
mair a Mab Duw ar ei harffed;
mair yn dala rhwng ei dwylo
y mab sy’n cadw’r byd rhag cwympo.
Ni cheir gweled mwy on hôl
nag ôl neidr ar y ddôl,
neu ôl llong aeth dros y tonnau,
neu ôl saeth mewn awyr denau.
...
Ni chawn aros mwy na’n tadau,
awn i’r ffordd yr aethant hwythau;
rhaid in fynd i wneuthur cyfri’,
a rhoi lle i eraill godi.
Nid oes lle i aros yma
ond dros ennyd i hafota;
wedyn gorfydd ar bawb symud,
a mynd i’r ffordd yr aeth yr hollfyd.
Y mae’r angau glas a’i fwa
yn ein herlid ym mhob tyrfa;
nid oes undyn all dihangyd
rhag ei follt a’i saeth wenwynllyd.
...