Cariad Duw
Mae Cariad Duw yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).
- Cariad Duw sydd fawr ryfeddod
- Cariad yw ogoniant Duwdod
- Cariad Duw sy'n ddi-ddechreuad
- Cariad Duw anfonodd Geidwad.
- Cariad Duw sy'n ddi-gyffelyb
- Cariad Duw arfaethodd achub
- Cariad drefnodd y Gwaredwr
- Cariad ffurfiodd gorph i'r Prynwr.
- Cariad roddodd bla ar Iesu
- Cariad barodd iddo chwysu
- Cariad ddugodd Grist i'r lladdfa
- Cariad lwyddodd ar Galfaria.
- Cariad Duw sy'n tirion alw
- Cariad sy'n bywhau y marw
- Cariad sy'n cyfrannu'n helaeth
- Cariad byth ni ddannod eilwaith.
- Cariad Duw sy'n maddeu pechod
- Cariad Duw yw sail y Cymmod
- Cariad sy'n dileu anwiredd
- Cariad sydd yn cuddio camwedd.
- Cariad sydd yn gwisgo'r noethion
- Cariad sy'n iachau y cleifion
- Cariad Duw sy'n nerthu'r gweiniaid
- Cariad Duw sy'n dal eiddiliaid.
- Cariad Duw sy'n gwledda'r seintiau
- Cariad sydd yn llonni eneidiau
- Cariad Duw sy'n eu rhagflaenu
- Cariad sy'n eu hamgylchynu.
- Cariad Duw sy'n ddigyfnewid
- Cariad ddwg y saint i'r gwynfyd
- Cariad sy'n eu dyfal ddilyn
- Cariad Duw sy'n eu hamddiffyn.
- Cariad Duw sy'n gwenu'n siriol
- Cariad Duw sy'n gweithio'n nerthol
- Cariad! hyfryd briodoledd
- Cariad Duw sydd yn ddi-ddiwedd.
- Cariad Duw dyn golyn angeu
- Cariad gyfyd gyrph y seintiau
- Cariad arddel hwynt ar gyhoedd
- Cariad Duw fydd cam y nefoedd.