Casgliad o Ganeuon Cymru/Cwyn ar ol cyfaill

Cathl i'r Eos Casgliad o Ganeuon Cymru

gan John Blackwell (Alun)


golygwyd gan Thomas Arthur Levi
Iddo ef

CWYN AR OL CYFAILL,
[Pan arosai yn hir yn Rhydychen-1827. Gan ALUN.]


TRWY ba bleserau byd
Yr wyt yn crwydro cyd?
Mae pleser fel y lli',
A'r moethau goreu i mi
Yn wermod hebot ti,
Sior anwylaf.

Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godreu'r bryn,
A gwyrddion lanau'r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.



Mae peraidd flodau d'ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A'th ddefaid hyd y ddôl,
A'u gwirion ŵyn o'u hol
Yn gofyn ddoi di'n ol,
Sior anwylaf.

Mae'n Nghymru laeth a mêl,
Mae'n Nghymru fron ddi-gel,
Mae'n Nghymru un yn brudd
O'th eisiau nos a dydd,—
A'i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.

}


Nodiadau

golygu