Categori:Eben Rogers

Roedd y Parch. Eben Rogers (1870–1938) yn weinidog gyda’r Annibynwyr yng nghapel Saesneg Maria Street, Castell-nedd (1898–1902) ac yn Christ Church, Croesoswallt (1902–08).Roedd yn adroddwr enwog yn ei ddydd, enillodd y brif wobr am adrodd unigol i ddynion mewn o leiaf 6 Eisteddfod Genedlaethol. Roedd galw mawr arno fel adroddwr mewn cyngherddau ac ar y radio Gymraeg cynnar. Yn enedigol o Gwmbach, Aberdâr, bu’n byw yng Nghaerdydd ar ddiwedd ei oes a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cathays yn y ddinas.

Erthyglau yn y categori "Eben Rogers"

Dim ond y dudalen sy'n dilyn sydd yn y categori hwn.