Categori:Edward David Rowlands

Roedd Edward David Rowlands (1880 - 1969) yn ysgolfeistr ac awdur. Cafodd ei eni yn Llanuwchllyn a'i addysgu yn y Coleg Normal, Bangor. Bu'n brifathro ysgolion cynradd Chwilog a Chyffordd Llandudno. Bu E. D. Rowlands yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • Prif-feirdd Eifionydd (1914)
  • Dial y Lladron (1934)
  • Bro'r Eisteddfod (sef Bae Colwyn 1947)
  • Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (1948)
  • Atgofion am Lanuwchllyn (1975, cyhoeddwyd ar ôl ei farw)

NODYN:Gan fod E. D. Rowlands wedi marw ym 1969, bydd y rhan fwyaf o'i lyfrau yn dod allan o hawlfraint ar 1 Ionawr 2040, ac eithrio'r rhai a gyhoeddwyd dros 95 o flynyddoedd yn ôl (1929). Mae pob llyfr a gyhoeddwyd dros 95 mlynedd yn ôl yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi.


Erthyglau yn y categori "Edward David Rowlands"

Dangosir isod y 3 tudalen sydd yn y categori hwn.