Categori:Edward Tegla Davies

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Tegla Davies
ar Wicipedia
Commons logo Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: Edward Tegla Davies

Roedd Edward Tegla Davies (1880-1967) yn Weinidog Wesleaidd ag yn awdur toreithiog. Un o Landegla, o ran ei eni, fu'n "teithio" yn ôl trefn y Wesleaid trwy Gymru fel gweinidog. Roedd yn cyfrannu’n gyson i'r wasg Gymraeg . Bu yn olygydd Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid i blant, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun.

Gwrthododd gynnig i dderbyn OBE, gan ysgrifennu at ffrind, Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes

Ymysg ei lyfrau mae:—

  • Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
  • Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
  • Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
  • Nedw (Wrecsam, 1922)
  • Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
  • Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
  • Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
  • Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
  • Stori Sam (1938)
  • Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941).
  • Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
  • Y Foel Faen (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
  • Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
  • Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
  • Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.

NODYN: Gan fod Tegla wedi marw ym 1967, bydd y rhan fwyaf o'i lyfrau yn dod allan o hawlfraint ar 1 Ionawr 2038, ac eithrio'r rhai a gyhoeddwyd dros 95 o flynyddoedd yn ôl (1929). Mae pob llyfr a gyhoeddwyd dros 95 mlynedd yn ôl yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi.