Celain Urien Rheged
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- a dan brid a mein
- gwae vy llaw llad tat Owein
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- ym plith prid a derw
- gwae vy llaw llad vyg keuynderw
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- a dan vein a edewit
- gwae vy llaw llam ry'm tynghit.
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- ym plith prid a thywarch
- gwae vy llaw llad mab Kynuarch.
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- dan weryt ac arwyd
- gwae vy llaw llad vy arglwyd.
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- ym plith prid a thywawt
- gwae vy llaw llam ry'm daerawt.
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- a dan brid a dynat
- gwae vy llaw llam ry'm gallat.
- Y gelein veinwen a oloir hediw
- a dan brid a meinglas
- gwae vy llaw llam ry'm gallas.