Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys

Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes Cenenhadon hedd cânt ddwyn ar frys

gan David Charles (1762-1834)

394[1] Y Genhadaeth.
M. C.

1 CENENHADON hedd cânt ddwyn ar frys
Efengyl gras ein Duw
I bob rhyw fan ym mhellter byd
Lle trigo dynol-ryw.

2 Mynegant am y cymod gwiw
A ddaeth trwy bwrcas drud,
A'r ffynnon hyfryd sy'n glanhau
Aflendid mwya'r byd.

3 Fe lonna'r gwyllt farbariad gwael,
Fe lama'r Ethiop du,
Wrth glywed am anfeidrol Iawn
A gaed ar Galfari.

—David Charles, Caerfyrddin (1762—1834)

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 394, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930