Cerddais, addolais i ddail
gan Dafydd ap Gwilym
- Cerddais, addolais i ddail,
- Tref eurddyn, tra fu irddail.
- Digrif fu, fun, un ennyd
- Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
- Cydlwynach, difyrrach fu,
- Coed olochwyd, cydlechu,
- Cydfyhwman marian môr,
- Cydaros mewn cowed oror,
- Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
- Cydblethu gweddeiddblu gwydd.*
- Cydadrodd serch â'r ferch fain,
- Cydedrych caeau didrain.
- Crefft ddigerydd fydd i ferch -
- Cydgerdded coed â gordderch,
- Cadw wyneb, cydowenu,
- Cydchwerthin finfin a fu,
- Cyd-ddigwyddaw garllaw'r llwyn,
- Cydochel pobl, cydachwyn,
- Cydfod mwyn, cydyfed medd,
- Cydarwain serch, cydorwedd,
- Cyd-ddaly cariad ceadwy
- Cywir, ni menegir mwy.