Cerddi'r Bwthyn/Ffos y Clawdd

Y Ddrycin Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Y Chwynnwr

FFOS Y CLAWDD

PWY yw hon sydd ymhlyg fan yma,
A'i hwyneb nychlyd fel marmor gwyn?
A weli di'r crinddail yn disgyn arni,
A'i gwallt fel anialwch dan lwydrew'r glyn?

A weli di'r haint lle bu gorne'r gwyddfid,
A staen y gwin lle bu gwrid y rhos?
Yn anhrefn ei gwallt cei lun y dibristod
A'i gyrrodd yn ieuanc i noddfa'r ffos.

Yn ieuanc? Pwy a banylodd y gruddiau?
Ba fysedd oerion a wasgodd yr ên ?
Distaw, fy mrawd, rhag it darfu'r breuddwyd,—
Nid y blynyddoedd a'i gwnaeth yn hen.

Edrych arni, ond paid â'i deffro,—
Tirionach ei chwsg na'th drugaredd di ;
Gad i'r druanes anghofio ennyd
Mai Magdalen yw ei henw hi.

Os oer yw'r chwa ar y gruddiau llwydion,
Rhy fuan y derfydd y trymgwsg gwin.
Na, paid a'i deffro. Bydd pang ei sobrwydd
Yn fil creulonach nag oerni'r hin.

A weli di'r wên sy'n goleuo'r wyneb,—
Y wên na ddiffydd dan farrug nos?
Ai'r perl a gollwyd sydd yma'n lleueru,
Yma'n lleueru yn llaid y ffos?


Gad iddi chwerthin yn nefoedd mebyd,
A phaid â sôn am y rhew a'r gwynt ;
Gad iddi goledd yn nos ei thlodi
Y trysor teg a fu iddi gynt.

Gad iddi ddianc o'r gwter ennyd,—
Rhy fuan y dychwel i'r boen a'r baw.
Sang ar y glaswellt rhag it ei deffro
A'i galw yn ôl o'i pharadwys draw.

Gad iddi ail—brofi'r llawenydd cynnar
A'r diniweidrwydd na wybu nam;
Gad iddi ddawnsio ym maes lilïod
A thaflu ei lludded i freichiau mam.

Edrych arni, ond paid â'i dihuno,
Gad iddi wynfyd ei llygaid cau;
Rhy fuan y chwelir ei breuddwyd melys,—
Mae'r wawr annhirion yn agosáu.

Tyred, fy nghyfaill, mae'r sêr yn dianc,
A'r nos garedig yn gado'r tir.
Mae'r mwyalch yn chwythu'r gwlith o'i bibell
Cyn deffro'r ddaear a'i chwiban clir.

Cyn deffro'r ddaear? A'i deffro hithau
A'i galw yn ôl o'i pharadwys draw.
Pe medrwn, mi fynnwn ddistawrwydd heddiw,
Ac ni ddôi trydar o'r llwyn gerllaw.

O, tyred! Diffoddodd y wên angylaidd,
A darfu gwynfyd morwynig wen.
Mae'r mwyalch ynfyd yn chwiban eisoes,—
Druan ohoni!—Magdalen!

Nodiadau

golygu