Cerddi'r Bwthyn/Hydref
← Hafnos | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Pwllderi → |
HYDREF
'M hafod lonydd syllaf draw,
Â'r bore'n gloywi'r glyn.
Tros wyneb daear hyd ymhell,
Daeth rhyw weddnewid syn.
Lle gwelaf heddiw deyrn y dydd
Yn gyrru'r gwyll ar ffo,
Ni welaf gyffro geni dail
Yn llonni coed y fro.
Ym maes y gwenith mwy nid oes
Na baich, na llwytho trwm,
Ond brain a drudwy'n lloffa'n llu
Lle bu'r medelwyr crwm.
Nid gwyrddion y fforestydd mwy,
Na hwythau'r perthi mân;
Distaw y saif holl goed y maes,
Â'u brigau'n mynd ar dân.
Rhyfedd yw gweled dyddiau oer
Yn ysu doldir bras,
A gwrid marworyn dan y berth
Yn cochi'r borfa las.
Acw lle casglwyd ffrwyth y cyll
A chnwd perllannau braf,
Mi welaf odidowgrwydd lliw,
Mi welaf dranc yr haf.
Os miloedd o alarwyr mud
Sydd yno'n tyrru'n awr,
Fel tyrfa mewn cerbydau aur
Y dônt i'r angladd fawr.
Nid prudd-der du a wisgant hwy,
Eithr rhyw ogoniant syn.
Ond odid, "marw i fyw o hyd"
Yw cred y gweddwon hyn.
Ni cheir i'r llwyn na chorn, na ffliwt,
Ond gwyrth y lliwiau drud.
Mae'r nyth yn gandryll yn y berth,
A'r seiri ffraeth yn fud.
Na ddigalonned gwylwyr maes,
Ni chiliodd côr y tir;
A cherdd danbeitiach yn y man
Fydd ffrwyth y llafur hir.
Mae'n wir i'r gwcw wamal ffoi
A mynnu canu'n iach.
Nid syn nad yw ei hoffrwm hi
Ond deunod bitw bach.
Yr edn a deimlodd oerni'r hin
Yw seraff cangau'r coed;
A'r bardd a wybu ruddiau llaith
Yw'r cethlydd pêr erioed.
Dychweled cog i gyngerdd haf,
A gwennol ennyd awr,
Pan gilio'r eira, pwy a gân
Fel plant y cystudd mawr?
Cyn hir bydd noeth holl lwyni'r maes,
A'r gaeaf yn y bau.
O! gwyn ei fyd a gofiodd hyn
Ar dalar amser hau!
Nac ofned ef na'r eira trwm,
Na phrinder haul prynhawn;
Bydd iddo fendith fawr y Nef,—
Diddanwch ydlan lawn.
Aed gwrid yr Hydref dan y rhew,
A gwynned gardd a dôl,"
Ar afal bochgoch yn ei fwth
Bydd fflam yr haf ar ôl.
A hawdd fydd diolch gyda'r hwyr,
Ar aelwyd heuwr doeth,
Bod tymor medi'n dilyn haf
Cyn dyfod gaeaf noeth.